Profedigaeth

Mae Diogelwch Dŵr Cymru yn cydnabod yr effaith y gall marwolaeth drwy foddi ei chael ar aelodau o'r teulu, ffrindiau a chymunedau. Rydyn ni’n awyddus i geisio helpu'r rhai a allai fod wedi colli rhywun trwy eu cyfeirio at wasanaethau priodol a defnyddiol.

Gofal mewn Galar Cruse

Mae Gofal mewn Galar Cruse yn helpu pobl trwy un o'r cyfnodau mwyaf poenus mewn bywyd – drwy gefnogaeth, gwybodaeth ac ymgyrchu ynglŷn â phrofedigaeth. Mae eu llinell gymorth yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr profedigaeth sydd wedi’u hyfforddi ac sy'n cynnig cymorth emosiynol i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan alar.  

Child Bereavement UK

Mae Child Bereavement UK yn helpu plant a phobl ifanc (hyd at 25 oed) a theuluoedd i ailadeiladu eu bywydau pan fydd plentyn yn galaru neu pan fydd plentyn yn marw. Maen nhw’n gweithio ar y cyd ag amryw o sefydliadau, partneriaethau ac aelodaethau, gan ddarparu hyfforddiant, ymgynghoriaeth a chymorth i staff a gwirfoddolwyr.  

Grŵp Teuluoedd Diogelwch Dŵr Cymru   

Mae Grŵp Teuluoedd Diogelwch Dŵr Cymru yn grŵp o bobl sydd wedi colli rhywun annwyl drwy foddi yng Nghymru. Mae'r grŵp wedi ymroi i atal boddi a sicrhau na fydd unrhyw deulu arall yn profi eu colled nhw. Mae aelodau o deuluoedd y rhai a gollwyd drwy foddi wedi bod ar flaen y gad o ran ymdrechion i atal boddi yng Nghymru. I ymuno â'r grŵp teuluoedd, cysylltwch â Diogelwch Dŵr Cymru info@watersafetywales.org.uk