Arwyddion

Mae arwyddion clir a chyson yn achub bywydau. Mae Diogelwch Dŵr Cymru yn gweithio i wella arwyddion ar draws mannau cyhoeddus. Rydyn ni’n hybu defnyddio dyluniadau safonol ac iaith glir. Mae’n canllawiau, a ddatblygwyd gan randdeiliaid arbenigol ac a brofwyd ar y cyhoedd, yn helpu tirfeddianwyr ac awdurdodau lleol i godi arwyddion effeithiol sy'n rhybuddio, yn hysbysu ac yn amddiffyn.