- Water Safety Wales
- Ynghylch
- Tîm WSW
Tîm WSW
Tîm y Grŵp Llywio
![]()
Chris Cousens, Cadeirydd
Chris yw cadeirydd WSW ers 2020. Yn y cyfnod yma mae WSW wedi sicrhau cefnogaeth a chyllid gan y llywodraeth ac wedi cyhoeddi ei Strategaeth ar gyfer 2020-2026. Chris yw Arweinydd Diogelwch Dŵr Rhanbarthol yr RNLI yng Nghymru ac mae’n gweithio ym maes atal boddi ers 2015.
![]()
Fergus Feeney, Aelod o'r Grŵp Llywio
Fergus yw Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Nofio Cymru, sy'n gweithio i sicrhau gweithgareddau dyfrol i bawb gydol oes, ac Is-gadeirydd Cymdeithas Chwaraeon Cymru.
![]()
Richard Wasson, Aelod o'r Grŵp Llywio
Richard yw Arweinydd Diogelwch Cymunedol Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.
![]()
Paul Kay, Aelod o'r Grŵp Llywio
Paul yw’r Pennaeth Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
![]()
Carlene McAvoy, Aelod o'r Grŵp Llywio
Carlene McAvoy yw Uwch Reolwr Polisi RoSPA ac mae'n gweithio ledled y Deyrnas Unedig ym maes atal boddi a diogelwch dŵr. Mae Carlene yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol dros Iechyd y Cyhoedd ac mae hefyd yn sylfaenydd Water Safety Scotland. Mae'n eistedd ar Grŵp Llywio Water Safety Scotland, Diogelwch Dŵr Cymru, Water Safety England a'r Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol.
![]()
Peter Gallagher, Ysgrifenyddiaeth
Mae Peter yn Rheolwr Datblygu Diogelwch Dŵr gyda RoSPA ac ymunodd â Diogelwch Dŵr Cymru ym mis Mehefin 2024, gan weithio'n amser llawn i gydlynu ymdrechion y grŵp a rhoi cymorth i holl is-grwpiau WSW. Mae’n arwain nifer o brosiectau i ddatblygu ymdrechion i atal boddi yng Nghymru.