Diogelwch gweithgareddau
Mae treulio amser ar y dŵr neu ynddo yn ffordd wych o fwynhau'r mannau anhygoel sydd gan Gymru i'w cynnig. Mae gweithgareddau dŵr yn ffordd wych o fwynhau'r awyr agored, bod yn egnïol, dysgu sgiliau newydd ac yn bwysicaf oll cael hwyl. Ond, gyda phob gweithgaredd daw lefel benodol o risg, a dylai’r risgiau yma gael eu hystyried bob amser cyn ymgymryd ag unrhyw weithgaredd yn y dŵr neu ar y dŵr.
Rydyn ni’n argymell dilyn y Cod Diogelwch Dŵr bob amser[PG10.1], sy'n golygu asesu’r risg yn eich amgylchoedd ac yna cymryd camau'r cod bob amser. Dewiswch eich gweithgaredd o'r grid isod.
Mae Diogelwch Dŵr Cymru wrthi’n datblygu adnoddau i ymdrin â nifer o bynciau ychwanegol, a bydd y tudalennau gwe yma yn cael eu diweddaru maes o law.