Datganiad ar y GDPR

Ar gyfer gwefan watersafetywales.org.uk

Mae Diogelwch Dŵr Cymru (y cyfeirir ato yma wedi hyn fel WSW) yn trin preifatrwydd ei haelodau o ddifrif ac rydyn ni’n cymryd mesurau priodol i ddiogelu’ch preifatrwydd.

Mae'r Polisi yma yn esbonio sut rydyn ni’n diogelu ac yn rheoli unrhyw ddata personol* rydych chi'n ei rannu gyda ni ac rydyn ni’n ei gadw amdanoch chi, gan gynnwys sut rydyn ni’n casglu, prosesu, diogelu a rhannu'r data hwnnw.

* Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth a all gael ei defnyddio i adnabod unigolyn, gan gynnwys, ymysg pethau eraill, enw cyntaf ac olaf, cyfeiriad cartref, cyfeiriad ebost a rhif ffôn.

Y sail gyfreithlon dros brosesu data

Y sail rydyn ni’n ei defnyddio er mwyn prosesu’ch data ar WSW yw Buddiant Dilys. Mae'r ffordd rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio’ch data wedi'i hamlinellu yn yr adrannau canlynol.

Sut rydyn ni’n cael eich data personol

Rydych chi'n rhoi data personol inni ar eich ffurflen aelodaeth, trwy gyfrwng cais ar-lein neu gais ysgrifenedig drwy'r post/ebost. Mae hyn yn cynnwys enw, cyfeiriad, rhif(au) ffôn, cyfeiriadau ebost a gwybodaeth bersonol arall lle bo’i hangen.

Efallai y byddwn ni hefyd yn cadw gwybodaeth a gynhwysir mewn unrhyw gyfathrebiadau rhyngoch chi a ni (e.e. drwy'r post neu’r ebost) neu o ffynonellau eraill pan fo'n berthnasol (e.e. dyrannu tiwtoriaid, dyddiadau hyfforddiant a'ch rhif aelodaeth RoSPA lle bo'n gymwys).

Sylwch: Wrth gyflwyno cais neu gwestiwn trwy ein ffurflen gysylltubydd yr eitem a gyflwynwyd gennych yn cael ei rhannu gydag aelodau Grŵp Llywio WSW.

Sut rydyn ni’n defnyddio’ch data personol

Byddwn ni’n cadw ac yn defnyddio’ch data personol i reoli a gweinyddu'r Grŵp, digwyddiadau’r Grŵp, adnewyddu’ch aelodaeth a rhoi gwybodaeth ichi am y Grŵp, er enghraifft, drwy’r ebost, whatsapp neu gylchlythyr ac i gysylltu â chi ynghylch sgyrsiau a digwyddiadau sydd yn yr arfaeth.

Rydyn ni’n ymrwymo bob amser i ddiogelu’ch data personol mewn modd sy'n gyson â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ynghylch diogelu data. Byddwn ni hefyd yn cymryd mesurau diogelwch rhesymol i ddiogelu’ch data personol pan fo’n cael ei storio. .

Rhannu gwybodaeth  

Byddwn ni’n cadw gwybodaeth amdanoch yn gyfrinachol a fyddwn ni ddim yn rhannu’ch data personol gyda thrydydd partïon ac eithrio ar ôl gofyn am eich cydsyniad penodol heblaw asiantaethau cyfreithiol neu asiantaethau atal troseddu. Bydd eich enw, eich ebost a'ch rhif cysylltu ar gael yn adran y Grŵp yn unig ar y wefan er mwyn i aelodau eraill o’r Grŵp gysylltu â chi.  

I gael manylion ein polisi llawn ar y GDPR, cysylltwch â ni drwy ein ffurflen gysylltu ar y we.