Addysg

Mae Diogelwch Dŵr Cymru wedi ymrwymo i ymgorffori addysg diogelwch dŵr ar draws pob grŵp oedran a phob lleoliad dysgu. Ar ôl cael ein hysbrydoli gan ddull Water Safety Scotland, y nod yw sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn deall risgiau dŵr ac yn gwybod sut i gadw'n ddiogel. Mae’n hadnoddau addysg wedi'u cynllunio i helpu athrawon, arweinwyr ieuenctid a grwpiau cymunedol, ac mae’r deunyddiau wedi'u cysoni â Chwricwlwm Cymru.

O'r blynyddoedd cynnar i'r ysgol uwchradd, rydyn ni’n cynnig gweithdai, strwythurau gwersi a gweithgareddau rhyngweithiol sy'n hybu'r Cod Diogelwch Dŵr ac ymddygiad diogel ger dŵr.

Adnoddau Addysg WSW i

  • Ymarferwyr/Athrawon
  • Gwasanaeth Diogelwch Dŵr