Sioc Dŵr Oer

Deall Sioc Dŵr Oer  

Mae sioc dŵr oer yn ymateb sydyn ac anfwriadol a all ddigwydd pan fo'r corff yn cael ei drochi mewn dŵr islaw 15°C sy'n dymheredd cyffredin yn afonydd, llynnoedd, cronfeydd dŵr a dyfroedd arfordirol Cymru. Gall yr adwaith yma achosi atgyrch chwythwm yn y fan a’r lle, anadlu cyflym, a chynnydd sydyn yng nghuriad y galon a phwysedd y gwaed, a all arwain at banig ac anadlu dŵr i mewn. Gall yr effeithiau hyn drechu hyd yn oed nofwyr cryf. Mae'n bwysig cofio nad yw'r perygl yn gysylltiedig â’ch gallu fel nofiwr yn unig: mae'n ymwneud â sut mae'ch corff yn ymateb i'r oerfel.  

Beth allwch chi ei wneud  

Os byddwch chi'n syrthio i ddŵr oer, efallai mai'ch greddf yw nofio'n galed neu daflu’ch breichiau a’ch coesau o gwmpas, ond gall hyn gynyddu'r risg y byddwch chi’n boddi. Yn lle gwneud hyn, ymladdwch yr awydd yna gan geisio peidio â chynhyrfu a chofiwch arnofio i fyw  

  • Pwyswch eich pen yn ôl gan roi'ch clustiau dan y dŵr  
  • Ymlaciwch a rheoli’ch anadl  
  • Symudwch eich dwylo a'ch coesau i'ch helpu i aros ar y dŵr  
  • Efallai y bydd eich coesau yn suddo – mae hynny'n iawn: mae pawb yn arnofio'n wahanol  

Ar ôl i'r sioc gychwynnol fynd heibio, chwiliwch am ffyrdd i alw am help neu i fynd i ddiogelwch. Ymarferwch arnofio y tro nesaf y byddwch chi mewn man dan oruchwyliaeth fel pwll nofio.

Os byddwch chi'n mynd i ddŵr oer yn fwriadol, megis ar gyfer nofio awyr agored neu chwaraeon dŵr, ewch i'r dŵr yn araf, gwisgwch amddiffyniad thermol priodol fel siwt wlyb neu siwt sych, ac ystyriwch ddefnyddio dyfais arnofio bersonol.

Gall cynllunio ymlaen llaw a gwybod sut i ymateb achub eich bywyd chi a bywydau pobl eraill.