Ynglŷn â Diogelwch Dŵr Cymru
Mae Diogelwch Dŵr Cymru (WSW) yn grŵp o sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd ar ddiogelwch dŵr ac atal boddi yng Nghymru. Mae Grŵp Llywio WSW yn cynnwys cynrychiolwyr o Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA), Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCGA), Nofio Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (TANCGC).
Bwriad yr amryfal gynrychiolwyr yma yw rhoi golwg eang a chytbwys ar gyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth WSW.
Dyma ddogfen ein Cylch Gorchwyl.