Telerau ac Amodau

Croeso i wefan Diogelwch Dŵr Cymru (WSW). Os byddwch yn parhau i bori a defnyddio'r wefan yma, rydych chi’n cytuno i gydymffurfio â'r telerau a’r amodau defnydd canlynol a chael eich rhwymo ganddynt, sef telerau ac amodau sydd, ynghyd â'n polisi preifatrwydd, yn llywodraethu perthynas y WSW â chi o ran y wefan yma. Os ydych chi'n anghytuno ag unrhyw ran o'r telerau a’r amodau hyn, peidiwch â defnyddio’n gwefan.  

Mae'r term 'Diogelwch Dŵr Cymru' neu 'ni' yn cyfeirio at berchennog y wefan sydd â’i swyddfa gofrestredig yn Livingstone House, 43 Discovery Terrace, Heriot-Watt Research Park, EH14 4A. Mae'r term 'chi' yn cyfeirio at ddefnyddiwr neu wyliwr ein gwefan.  

 Mae defnyddio'r wefan yma yn amodol ar y telerau defnydd canlynol:  

  • Mae cynnwys tudalennau'r wefan yma at eich gwybodaeth a'ch defnydd cyffredinol yn unig. Gall gael ei newid heb rybudd.  
  • Mae'r wefan yma yn defnyddio cwcis i fonitro dewisiadau pori. Os ydych chi'n caniatáu i gwcis gael eu defnyddio, efallai y bydd yr wybodaeth bersonol ganlynol yn cael ei storio gennym i'w defnyddio gan drydydd partïon: [insert list of information].  
  • Nid ydyn ni nac unrhyw drydydd partïon yn darparu unrhyw warantiad neu warant ynghylch cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnrwydd neu addasrwydd yr wybodaeth a'r deunyddiau a geir neu a gynigir ar y wefan yma at unrhyw ddiben penodol. Rydych chi’n cydnabod y gall yr wybodaeth a’r deunyddiau yma gynnwys anghywirdebau neu wallau ac rydyn ni’n ymwrthod yn llwyr ag unrhyw atebolrwydd am unrhyw anghywirdebau neu wallau o'r fath i'r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.  
  • Chi yn unig sy’n atebol am y risg wrth ddefnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan yma, ac ni fyddwn ni’n atebol am hynny. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael drwy'r wefan yma yn bodloni'ch gofynion penodol.  
  • Mae'r wefan yma yn cynnwys deunydd sy'n eiddo i ni neu sydd wedi'i drwyddedu i ni. Mae'r deunydd yma yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y dyluniad, y cynllun, yr edrychiad, yr ymddangosiad a'r graffeg. Gwaherddir atgynhyrchu heblaw yn unol â'r hysbysiad hawlfraint, sy'n rhan o'r telerau a’r amodau hyn.  
  • Mae'r holl nodau masnach a atgynhyrchir yn y wefan yma, nad ydynt yn perthyn i'r gweithredwr, neu wedi'u trwyddedu i'r gweithredwr, yn cael eu cydnabod ar y wefan.  
  • Gall defnyddio’r wefan yma heb awdurdod arwain at hawliad am iawndal a/neu gall fod yn drosedd.  
  • O dro i dro, gall y wefan yma hefyd gynnwys dolenni i wefannau eraill. Er hwylustod i chi ac i roi rhagor o wybodaeth y darperir y dolenni yma. Nid ydynt yn arwydd ein bod yn cymeradwyo'r wefan neu’r gwefannau. Does gennyn ni ddim cyfrifoldeb am gynnwys y wefan neu’r gwefannau ym mhen draw’r dolenni.  
  • Mae eich defnydd ar y wefan yma ac unrhyw anghydfod sy'n deillio o’r defnydd hwnnw yn ddarostyngedig i ddeddfau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.