Partneriaethau Diogelwch Dŵr  

Mae cydweithio wrth galon Diogelwch Dŵr Cymru. Rydyn ni’n gweithio gyda mwy na 40 o bartneriaid ar draws sectorau gan gynnwys gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, elusennau, a sefydliadau awyr agored i rannu gwybodaeth a chyflwyno negeseuon cyson. Er hynny, y lle gorau i ymyriadau i atal boddi gael eu gwneud yw ar y lefel leol a hynny gan bobl sy'n gyfarwydd â'r risgiau yn eu hardal. Rydyn ni’n cefnogi ac yn annog grwpiau lleol i ffurfio partneriaethau aml-asiantaeth sy'n mynd i'r afael â risgiau diogelwch dŵr yn eu cymunedau. Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu Cymru fwy diogel.