Rhew
Gyda'r gaeaf daw amodau rhewllyd a'r risgiau cynyddol sy'n gysylltiedig â chyrff dŵr sydd wedi'u rhewi.
Mae Diogelwch Dŵr Cymru yn annog pawb i fod yn barod a gofalus, yn enwedig ger dyfrffyrdd fel camlesi, afonydd a llynnoedd. Mae'r negeseuon diogelwch isod yn cynnig canllawiau ar gadw eich hun, eich anwyliaid, a’ch anifeiliaid anwes yn ddiogel yn ystod y gaeaf.
Beth yw'r risg?
- Sioc dŵr oer: Gall cwympo i ddŵr yn annisgwyl sbarduno adwaith corfforol a all eich rhoi chi mewn perygl
- Llithro a chwympo: Gall rhew arwain at lwybrau llithrig, gan gynyddu'r siawns o syrthio i gyrff dŵr. Gall tywyllwch, tywydd gwael, eira a dail, sydd i gyd yn nodweddiadol yn y gaeaf, gynyddu'r risg yma.
- Ceisio achub: Mae llawer o farwolaethau sy'n gysylltiedig â rhew ger dŵr yn digwydd pan fydd pobl yn ceisio achub pobl eraill neu anifeiliaid anwes sydd wedi syrthio i mewn.
- Hypothermia: Yn ogystal ag arwain at sioc dŵr oer, gall trochi mewn dŵr oer arwain at hypothermia.
Sut i leihau'r risg:
- Cadwch draw o’r rhew
- Peidiwch byth â cherdded na chwarae ar rew, gan ei bod yn amhosibl dweud a all y rhew gario’ch pwysau.
- Cadwch bellter diogel oddi wrth ymylon y dŵr
- Gall eira a dail guddio ymyl llwybrau, ac mae arwynebau rhewllyd yn cynyddu'r risg o lithro i mewn i ddŵr rhewllyd. Gwisgwch esgidiau gaeaf sydd â gafael dda bob amser.
- Goruchwyliwch blant ger y dŵr
- Cadwch blant i ffwrdd o ddŵr rhewllyd a pheidiwch â gadael iddyn nhw fentro ar y rhew.
- Cadwch anifeiliaid anwes dan reolaeth
- Cadwch gŵn ar dennyn ger rhew a pheidiwch â thaflu ffyn neu beli ar ddŵr wedi'i rewi. Os bydd anifail anwes yn syrthio trwy'r rhew, dilynwch y cyngor diogelwch isod yn hytrach na cheisio’i achub eich hunan.
Beth i'w wneud os gwelwch chi rywun yn y dŵr
- Ffoniwch am help. Deialwch 999 a rhowch wybodaeth mor gywir ag y gallwch.
- Cadwch draw o’r rhew. Peidiwch â cheisio mynd ar y rhew eich hun, gan fod hyn yn creu risg i chithau.
- Gwnewch gysylltiad a chadwch gysylltiad â'r person yn y dŵr i'w sicrhau bod help ar y ffordd.
- Chwiliwch am offer achub. Efallai y bydd cylch achub a llinell daflu gerllaw. Fel arall, chwiliwch am rywbeth a allai helpu fel rhaff, cangen, polyn neu ddillad wedi'u clymu at ei gilydd.
- Defnyddiwch yr offer i geisio dod â’r person i ddiogelwch. Peidiwch â mynd ar y rhew eich hun – gofalwch eich bod yn ôl o'r ymyl ac ar dir cadarn.
- Helpwch o bellter diogel. Os na allwch eu cyrraedd nhw, llithrwch rywbeth sy'n arnofio atyn nhw, fel potel blastig neu bêl-droed tra byddwch chi’n aros am y gwasanaethau brys.
- Cadwch yn gynnes. Os ydych chi'n gallu cael y person allan yn ddiogel, cadwch nhw'n gynnes nes i'r gwasanaethau brys gyrraedd. Mae'n bwysig eu bod yn cael cymorth meddygol hyd yn oed os ydyn nhw'n ymddangos yn ddianaf.
I weld fideo sy'n siarad am y cyngor yma, gwyliwch ganllaw diogelwch dŵr gaeaf RoSPA: Fideo Diogelwch Iâ RoSPA.
Beth i'w wneud os byddwch chi'n syrthio trwy'r rhew
- Peidiwch â chynhyrfu a galwch am help
- Arnofiwch ar eich cefn nes eich bod chi'n teimlo'n dawel, yna ceisiwch ddringo allan o'r rhew trwy ledu'ch breichiau ar draws wyneb y rhew o'ch blaen a thynnu'ch hun allan yn araf.
- Os na allwch chi ddringo allan, daliwch ati i arnofio, peidiwch â chynhyrfu ac arhoswch am y gwasanaethau brys. Cadwch eich pen yn glir o'r dŵr.
Beth i'w wneud os bydd eich anifail anwes yn syrthio trwy'r rhew
- Peidiwch â cheisio’i achub eich hunan – gallai hyn greu risg i chithau. Yn hytrach, anogwch eich ci i nofio atoch er mwyn ichi ei godi allan.
- Anogwch eich anifail anwes i nofio i'r lan lle gallwch ei godi allan yn ddiogel.
- Os na allan nhw’ch cyrraedd, defnyddiwch gangen neu bolyn i'w cyrraedd heb fentro ar y rhew.