Tywydd poeth

Wrth i newid hinsawdd ddod â thywydd poethach i Gymru, rydyn ni’n profi tonnau gwres yn amlach. Mae'r tymheredd uchel yma yn aml yn arwain pobl i chwilio am ryddhad mewn afonydd, llynnoedd, a'r môr. Serch hynny, gall hyn fod yn beryglus. Ar ddiwrnodau pan fydd y tymheredd yn codi uwchlaw 25°C, mae nifer y marwolaethau boddi bum gwaith yn uwch nag ar ddiwrnodau oerach o gwmpas 10°C.  

Beth yw'r risg?

Hyd yn oed pan fo'r aer yn teimlo'n gynnes, mae'r dŵr yng Nghymru yn dal yn oer. Gall neidio i ddŵr oer heb baratoi achosi sioc dŵr oer, adwaith sydyn a pheryglus a all arwain at foddi. Dyw llawer o bobl ddim yn sylweddoli'r risgiau o fynd i ddŵr oer heb wybod sut i gadw'n ddiogel.  

Sut i leihau'r risg:

Dyma gyngor WSW:  

  • Peidiwch â mynd i’r dŵr oni bai eich bod yn siŵr fod hynny’n ddiogel.  
  • Dilynwch y Cod Diogelwch Dŵr.
  • Dysgwch sut i amddiffyn eich hun rhag sioc dŵr oer—edrychwch ar ein hadran gynghorion pwrpasol.  

Os byddwch chi'n cael eich hun mewn trafferth yn y dŵr, arnofiwch i fyw:  

  • Pwyswch eich pen yn ôl gyda'ch clustiau dan y dŵr  
  • Ymlaciwch a cheisiwch anadlu yr un fath ag arfer  
  • Symudwch eich dwylo a'ch coesau i'ch helpu i arnofio  
  • Mae'n iawn os bydd eich coesau’n suddo: rydyn ni i gyd yn arnofio'n wahanol  
  • Unwaith y bydd eich anadlu dan reolaeth, ffoniwch am help neu nofiwch i ddiogelwch.  

Os gwelwch chi rywun arall mewn trafferth yn y dŵr yr haf yma, cofiwch Ffoniwch, Dywedwch, Taflwch.  

  • Ffoniwch 999 i gael help  
  • Dywedwch wrth y person sy'n cael trafferth am arnofio ar eu cefn  
  • Taflwch rywbeth atyn nhw sy'n arnofio, fel cylch achub, tegan chwythu, neu botel.