Caiacio/Canŵio

Mae caiacio a chanŵio yn boblogaidd mewn lleoliadau mewndirol ac arfordirol ledled Cymru, gyda degau o filoedd o bobl yn cymryd rhan bob blwyddyn. Cyn ichi fynd ar y dŵr, gofalwch eich bod chi'n gwybod sut i gadw'ch hun yn ddiogel.  

Y negeseuon allweddol ynghylch caiacio a chanŵio:

Mae Paddle Cymru yn cyhoeddi cyngor diogelwch cynhwysfawr ar chwaraeon padlo, sef cyngor mae Diogelwch Dŵr Cymru yn ei ategu.

Mynnwch y Sgiliau: Dechreuwch gyda chlwb, cwrs neu hyfforddwr.

  • Rhowch eich enw ar eich bad: Labelwch eich bad â'ch enw, eich rhif cysylltu a/neu rif cofrestru’ch car.  
  • Gwisgwch ddyfais arnofio/cymorth arnofio personol: Gofalwch bob  amser eu bod wedi'u ffitio'n iawn ac wedi'u prynu oddi wrth frand/manwerthwr sydd ag enw da.  
  • Gwisgwch ar gyfer yr amodau: Gwisgwch ddillad priodol ar gyfer yr amodau a thymheredd y dŵr.  
  • Rhowch wybod i rywun cyn ichi fynd: Dywedwch ble rydych chi'n mynd, eich man ymadael a'ch amser dychwelyd arfaethedig.  
  • Mynnwch wybod eich cyraeddiadau: Ystyriwch eich bad, yr amodau, eich profiad a'ch lefel ffitrwydd. Arbedwch nerth ar gyfer y daith yn ôl.   
  • Gwiriwch y tywydd: Lawrlwythwch ap tywydd a byddwch yn ymwybodol o rybuddion tywydd, cyflymder a chyfeiriad y gwynt, cyflwr y môr ac amserau’r llanw.  
  • Gofalwch fod gennych chi gyfrwng cyfathrebu: Mynnwch ddull cyfathrebu dibynadwy, fel ffôn symudol mewn bag gwrth-ddŵr neu radio VHF, a'u cadw nhw arnoch chi.  

Mae Adventure Smart a Paddle UK hefyd wedi creu fideo ar gyfer pobl sy'n mynd allan ar gaiac i eistedd arno, sydd i’w weld yma Rhestr Offer Canŵio - AdventureSmartUK  

Rhannwch y postiadau hyn ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'ch rhwydwaith i helpu i gadw pawb yng Nghymru yn ddiogel