Padlfyrddio ar eich traed
Mae mwy o bobl ledled Cymru yn mwynhau padlfyrddio ar eu traed. Cyn ichi fynd ar y dŵr, gofalwch eich bod chi'n gwybod sut i gadw'ch hun yn ddiogel.
Y negeseuon allweddol ynghylch padlfyrddio ar eich traed
Mae Paddle Cymru yn cyhoeddi cyngor diogelwch cynhwysfawr ar chwaraeon padlo, sef cyngor mae Diogelwch Dŵr Cymru yn ei ategu.
- Mynnwch y Sgiliau: Dechreuwch gyda chlwb, cwrs neu hyfforddwr.
- Rhowch eich enw ar eich bwrdd: Labelwch eich bwrdd â'ch enw, eich rhif cysylltu a/neu rif cofrestru’ch car.
- Gwisgwch ddyfais arnofio/cymorth arnofio personol: Gofalwch bob amser eu bod wedi'u ffitio'n iawn ac wedi'u prynu oddi wrth frand/manwerthwr sydd ag enw da. .
- Gwisgwch dennyn: Defnyddiwch dennyn priodol wrth badlfyrddio. I gael rhagor o wybodaeth edrychwch yma.
- Gwisgwch ar gyfer yr amodau: Gwisgwch ddillad priodol ar gyfer yr amodau a thymheredd y dŵr.
- Rhowch wybod i rywun cyn ichi fynd: Dywedwch ble rydych chi'n mynd, eich man ymadael a'ch amser dychwelyd arfaethedig.
- Mynnwch wybod eich cyraeddiadau: Ystyriwch eich bwrdd, yr amodau, eich profiad a'ch lefel ffitrwydd. Arbedwch nerth ar gyfer y daith yn ôl.
- Gwiriwch y tywydd: Lawrlwythwch ap tywydd a byddwch yn ymwybodol o rybuddion tywydd, cyflymder a chyfeiriad y gwynt, cyflwr y môr ac amserau’r llanw.
- Gofalwch fod gennych chi gyfrwng cyfathrebu: Mynnwch ddull cyfathrebu dibynadwy, fel ffôn symudol mewn bag gwrth-ddŵr neu radio VHF, a'u cadw nhw arnoch chi.
Rhannwch y postiadau hyn ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'ch rhwydwaith i helpu i gadw pawb yng Nghymru yn ddiogel.