Rhedeg a cherdded

Mae treulio amser ger afonydd, llynnoedd neu'r arfordir yn ffordd wych o ymlacio, ond gall llithro, baglu a chwympo beri i bobl fynd i'r dŵr yn annisgwyl, gan gynyddu eu risg o foddi. Mae mwy o bobl yn boddi ar ôl cwympo i’r dŵr yn ddamweiniol nag yn ystod unrhyw weithgaredd sydd wedi'i gynllunio.

Cyffredinol

  • Rhowch wybod i rywun bob amser ble rydych chi'n mynd a phryd y byddwch chi’n ôl
  • Gwiriwch ragolygon y tywydd cyn ichi fynd allan
  • Cymerwch ofal ychwanegol mewn tywydd gwyntog a stormus
  • Cariwch ffôn symudol wedi'i wefru bob amser
  • Cymerwch sylw o arwyddion rhybuddio a chadwch draw o'r ymylon
  • Os ydych chi mewn trafferth yn y dŵr – Arnofiwch i Fyw
  • Os gwelwch chi rywun arall yn y dŵr – Ffoniwch 999, Dywedwch wrthyn nhw am arnofio, Taflwch rywbeth sy'n arnofio atyn nhw 
  • Goruchwyliwch blant ger y dŵr  

Ar yr arfordir

  • Gofalwch na chewch chi’ch torri i ffwrdd gan y llanw, gwiriwch amserau’r llanw ar gyfer eich lleoliad  
  • Does dim achubwyr bywyd ar ddyletswydd dros fisoedd y gaeaf. Cymerwch gyngor diogelwch o’r arwyddion neu gofynnwch am gyngor lleol am y l lanw a pheryglon eraill  

Rhannwch y postiadau hyn ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'ch rhwydwaith i helpu i gadw pawb yng Nghymru yn ddiogel