Strategaeth
Cafodd Strategaeth Atal Boddi Cymru ei lansio ym mis Ionawr 2020. Mae gan y Strategaeth uchelgais allweddol o ddim marwolaethau yn gysylltiedig â dŵr. Mae gan y strategaeth saith nod allweddol:
- Gwella data a gwybodaeth digwyddiadau dŵr yng Nghymru
- Hyrwyddo a datblygu dysgu nofio ac addysg diogelwch dŵr
- Hyrwyddo a chefnogi datblygiad cynlluniau diogelwch dŵr
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth gyhoeddus o risgiau sy’n ymwneud â dŵr a sicrhau bod negeseuon cyson yn cyrraedd y bobl gywir ar yr adeg gywir
- Hyrwyddo cyfranogaeth ddiogel mewn gweithgareddau dŵr ar draws Cymru
- Cyfrannu at ostyngiad mewn hunanladdiadau sy’n gysylltiedig â dŵr
- Gweithio â theuluoedd a effeithiwyd gan ddigwyddiadau sy’n ymwneud â dŵr