Llifogydd

Dylai trigolion ledled Cymru wybod sut i gadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel yn ystod llifogydd.  

Nod Diogelwch Dŵr Cymru yw atal boddi damweiniol a chodi ymwybyddiaeth am ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â llifogydd, gan ddangos bod modd eu hatal gyda gwybodaeth a rhagofalon priodol.  

Beth yw'r risg?

  • Sioc dŵr oer: Gall cwympo i mewn i ddŵr yn annisgwyl sbarduno adwaith corfforol peryglus..
  • Dŵr sy'n llifo'n gyflym: Gall llifogydd achosi ceryntau cyflym a all yn hawdd daro oedolyn oddi ar ei draed neu wneud i gar arnofio. Gall hefyd fod yn anodd iawn mesur dyfnder a chyflymder y dŵr.  
  • Peryglon ffisegol: Gall dŵr llifogydd guddio peryglon ffisegol fel tyllau archwilio, malurion ac arwynebau anwastad, gan gynyddu'r risg o faglu a chwympo.  

Sut i leihau'r risg:

Byddwch yn barod

  • Gwiriwch eich perygl llifogydd lleol drwy ymweld â Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).  
  • Cofrestrwch i gael rhybuddion llifogydd os ydych chi'n byw mewn ardaloedd sy'n agored i lifogydd neu gerllaw.  
  • Paratowch bag llifogydd brys gyda hanfodion, fel eich dogfennau yswiriant, tortsh a gwefrydd ffonau a phecyn batri. Gall llifogydd ddigwydd drwy gydol y flwyddyn, felly cadwch y bag wrth law.  

Osgowch ddyfroedd llifogydd

  • Allwch chi ddim bob amser dweud pa mor ddwfn yw dŵr llifogydd. Peidiwch â mentro. Os oes amheuaeth, peidiwch â gyrru ar hyd ffordd sydd dan ddŵr. Gall dŵr sydd gyfuwch ag olwyn y car olchi car i ffwrdd.  
  • Gall hyd yn oed dŵr bas beri risgiau: gall dŵr sy'n symud yn gyflym eich taro oddi ar eich traed.