Stormydd
Wrth i newid yn yr hinsawdd gyflymu, mae Cymru yn profi stormydd mwy dwys ac aml. Gall y digwyddiadau tywydd garw hyn ddod â gwyntoedd cryf, glaw trwm, ac amodau peryglus ger afonydd, arfordiroedd, a mannau dan lifogydd.
Beth yw'r risg?
Mae tywydd stormus yn creu amodau hynod beryglus ar y glannau a'r tir. Gall tonnau pwerus, gwyntoedd cryf, a hyrddiadau ar y môr greu ceryntau terfol, gan ei gwneud hi'n beryglus mynd i mewn i'r môr. Mae llifogydd mewndirol a dŵr sy'n symud yn gyflym yn peri risgiau difrifol, gyda rhwystrau cudd dan yr wyneb. Mae llwybrau gwlyb, gwelededd gwael, a lefelau dŵr ansicr hefyd yn cynyddu'r siawns o syrthio’n ddamweiniol i ddŵr agored. Yn ystod stormydd, y dewis mwyaf diogel yw cadw'n glir o afonydd, llynnoedd, a'r môr.
Sut i leihau'r risg?
- Gwiriwch ragolygon y tywydd cyn mynd allan
- Cymerwch sylw o rhybuddion tywydd
- Cofrestrwch i gael rhybuddion llifogydd ac ymgyfarwyddwch â'n cyngor ni ar llifogydd
- Os oes rhaid ichi fynd allan, rhowch wybod i rywun ble rydych chi'n mynd a phryd y byddwch chi’n ôl
- Ewch â ffôn symudol wedi'i wefru rhag ofn argyfwng a'i gadw fe arnoch chi
- Cadwch draw yn ddigon pell o ymyl y dŵr
- Goruchwyliwch blant yn fanwl ger y dŵr
- Os byddwch chi'n syrthio i'r dŵr yn annisgwyl: Arnofiwch i Fyw
- Os oes rhywun arall mewn trafferth: Os oes rhywun arall mewn trafferth: Ffoniwch 999, Dywedwch wrthyn nhw am arnofio, Taflwch rywbeth sy'n arnofio
Os ydych chi'n agos at yr arfordir:
- Gwyliwch rhag tonnau mawr ac ymchwyddiadau storm sy’n gallu’ch sgubo oddi ar eich traed
- Cadwch draw o glogwyni, morgloddiau neu bromenadau agored yn ystod tywydd garw