Mae Strategaeth Atal Boddi Cymru yn nodi ymagwedd gyffredin at leihau digwyddiadau boddi a gwella diogelwch dŵr ledled Cymru.
Bob blwyddyn, mae bywydau’n cael eu colli mewn digwyddiadau sy’n cael effaith ddinistriol ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau. Mae rhyw un person yn colli eu bywyd drwy foddi bob wythnos yng Nghymru.
Beth yw Strategaeth Atal Boddi Cymru?
Mae Strategaeth Atal Boddi Cymru yn darparu fframwaith ar gyfer gweithredu ar y cyd ledled Cymru. Gan ddod â sefydliadau, cymunedau ac unigolion at ei gilydd, mae’n nodi ymagwedd at leihau digwyddiadau boddi, gwella diogelwch dŵr a gweithio tuag at ddyfodol lle gall pawb fod yn ddiogel yn y dŵr, ar y dŵr ac o amgylch y dŵr.
All yr un sefydliad unigol atal boddi ar ei ben ei hun. Mae’r strategaeth yn dwyn ynghyd bartneriaid ledled Cymru i sbarduno cydweithio, addysg, ymwybyddiaeth a gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Sut mae cyrraedd yno
Mae’r strategaeth wedi’i hadeiladu o amgylch saith nod strategol a fydd yn llywio’r gweithredu ledled Cymru:
Gyda’i gilydd, bydd y nodau hyn yn helpu i greu profiadau mwy diogel yn y dŵr, ar y dŵr ac o amgylch y dŵr yng Nghymru.
Mae gan bawb rôl i’w chwarae
Mae gan bawb rôl i’w chwarae wrth wella diogelwch dŵr ledled Cymru.
P’un a ydych chi’n rhiant, athro neu athrawes, sefydliad cymunedol, ymatebwr, tirfeddiannwr, darparwr gweithgareddau, partner neu aelod o’r cyhoedd, trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gynydduymwybyddiaeth, cryfhau addysg a chefnogi profiadau mwy diogel o amgylch dŵr.
Gyda’n gilydd, gallwn weithio tuag at ddim boddi.
Darllenwch y strategaeth
Lawrlwytho Strategaeth Atal Boddi Cymru
Lawrlwytho’n ffeithlun